Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?

Strategaeth Llywodraeth Cymru

Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol’, sy’n nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweledigaeth hirdymor yn y dyfodol o ‘drefn system gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’ sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd a lles ac atal salwch. Mae’r weledigaeth hon yn canolbwyntio ar symud pwyslais y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol o ofal a thriniaeth yn yr ysbyty i iechyd, lles ac atal, a gofal a hunanreolaeth yn y cartref, gyda’r nod o greu Model Cenedlaethol newydd o Ofal Integredig. Rhaglen @Gartref yw ymateb Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro i uchelgais Llywodraeth Cymru a nodir yn Cymru Iachach.

Newid Demograffig

Ledled Cymru, mae’r boblogaeth yn heneiddio, gyda llawer o ardaloedd yn gweld cynnydd cyflymach yn nifer y bobl hŷn. Mae oedran cyfartalog pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cynyddu’n gyson, a disgwylir i’r rhai 85 oed neu hŷn ym Mro Morgannwg gynyddu 40% yn y 10 mlynedd nesaf.  Mae hyn yn golygu bod gennym y fantais o bobl yn byw bywydau hirach. Mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cymunedau drwy gyflogaeth, gwirfoddoli a gofal di-dâl. Yn 2018, canfu’r adroddiad ‘Byw yn Dda am Hirach: Y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru’ (Tudur Edwards et al), yr amcangyfrifir mai gwerth economaidd y cyfraniad a wneir gan bobl hŷn yng Nghymru yw £2.19 biliwn bob blwyddyn.

Rydym yn cydnabod wrth i bobl heneiddio, eu bod yn fwy tebygol o fod â chyflyrau cymhleth a hirdymor. Rydym yn benderfynol o ddarparu gwasanaethau sy’n galluogi pobl i fyw yn dda a pharhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw mor hir â phosibl.

Anghydraddoldebau iechyd

Mae cysylltiad clir rhwng anghydraddoldebau cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd. Gall pobl mewn rhai grwpiau gwarchodedig, er enghraifft pobl ag anableddau neu bobl o gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at ofal cymdeithasol iach neu fod mewn mwy o berygl o salwch. Mae Caerdydd a Bro Morgannwg yn cynnwys rhai o’r ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru. Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd o fudd i bobl gan ei fod yn arwain at fywydau hirach, iachach, ac yn lleihau costau sy’n gysylltiedig ag iechyd gwael i wasanaethau ac i bobl.

Gweithio mewn Partneriaeth

Yn unol â’n gweledigaeth ar gyfer y Rhaglen @Gartref, rydym bob amser yn ceisio gwella’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi’r bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i fyw bywydau hapusach, mwy bodlon ac iachach. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni weithio’n agos gyda sefydliadau o bob rhan o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gan nad y GIG neu ofal cymdeithasol gan awdurdodau lleol a’u darparwyr yn unig sy’n effeithio ar ganlyniadau iechyd a gofal, ond gwasanaethau pwysig eraill hefyd, tai o ansawdd da, a chymuned leol gref. Wrth i ni gynllunio i ddarparu gofal yn nes at adref ac yn y gymuned a gwasanaethau cydgysylltiedig, bydd datblygu cryfder ein partneriaeth yn hanfodol bwysig.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content