Gweithlu, trawsnewid digidol a gweithio mewn partneriaeth

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i wella eich profiad o wasanaethau iechyd, gofal a chymorth.  

Wrth i’r rhaglen @Gartref ddatblygu ac wrth i ni greu mwy o dimau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys staff o wahanol sefydliadau a phroffesiynau, bydd angen i ni weithio hyd yn oed yn agosach gyda’n gilydd dros y blynyddoedd nesaf er mwyn cyflawni’r agenda uchelgeisiol hon.  

Ein nod yw eich bod yn elwa ar y buddion a ddaw yn sgil gwaith partneriaeth i wella gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth ledled Caerdydd a’r Fro ac i chi deimlo bod eich gofal yn cael ei ddarparu’n ddi-dor gan y GIG, eich cyngor lleol ac unrhyw ddarparwyr eraill drwy gydweithio’n agos. Rydym yn awyddus i chi orfod dweud rhywbeth wrthym unwaith yn unig ac i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ddeall hynny ni waeth pa sefydliad sy’n eu cyflogi’n uniongyrchol.   

Trawsnewid Digidol

Er mwyn cyflawni ein nodau ar draws y rhaglen @Gartref mae angen i ni fuddsoddi yn ein technoleg ddigidol, a fydd yn helpu i sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol perthnasol gael gafael ar wybodaeth am eich gofal yn syml ac yn rhwydd, wrth ddiogelu eich data personol hefyd.  

Mae llawer o wahanol fentrau trawsnewid digidol yn cael eu cynnal ar draws y GIG, cynghorau lleol a darparwyr y trydydd sector a fydd yn helpu i gyfrannu tuag at nodau ac amcanion y rhaglen @Gartref. Dyma rai enghreifftiau: 

Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol yn brosiect pwysig ar gyfer Cymru gyfan sy’n cael ei arwain gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a fydd yn helpu i drawsnewid iechyd a gofal drwy ddefnyddio data mewn modd mwy cysylltiedig a chydweithredol. Bydd yr Adnodd yn galluogi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gael mynediad at y data a’r offer iawn, ar yr adeg iawn, i wneud penderfyniadau gwybodus.   

Bydd y Cofnod Iechyd a Gofal Digidol yn defnyddio’r Adnodd i greu un cofnod ‘meistr’ ar gyfer cleifion, y gellir ei ddefnyddio ar draws lleoliadau gofal i leihau dyblygu, sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar gael pan fo’i hangen a helpu i leihau trosglwyddo gwybodaeth yn araf ar bapur.  

Mae’r Rhanbarth Gofal Digidol yn ffordd o ddod â’r GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal ynghyd i gefnogi gofal gwybodus a sicrhau bod gwybodaeth berthnasol y cytunwyd arni ar gael i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ar draws ffiniau sefydliadol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae prosiectau treialu wedi’u cynnal eisoes i gysylltu gwybodaeth ar draws sefydliadau yn y rhanbarth, gan gynnwys cysylltiad llwyddiannus TG a chofnodion gofal rhwng y GIG a Chyngor Caerdydd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghaerdydd.

Mae Gofal a Alluogir yn Dechnolegol yn ffordd o ddefnyddio technoleg i’ch cefnogi i fyw yn eich cartrefi eich hunain am fwy o amser, gan gefnogi eich canlyniadau iechyd a lles, i ategu neu negyddu’ch angen am ofal, a chynnig atebion ataliol i ddarpariaeth gofal. Gallai’r gofal hwn gynnwys defnyddio technoleg fel dyfais ddiogelwch, offeryn i’ch annog i gymryd eich meddyginiaeth, ffordd o ddadansoddi eich gweithgarwch, neu eich cefnogi i ymateb i golled clyw neu olwg. 

Rhannu Gweithlu

Ni ellid darparu unrhyw wasanaeth iechyd, gofal na chymorth heb y bobl iawn, sydd â’r sgiliau iawn, yn gweithio yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Felly, mae’r gweithlu hanfodol bwysigrwydd i gyflawni nodau ac uchelgais y rhaglen @Gartref a dod â’ch gofal mor agos â phosibl i’ch cartref.   

Wrth i wasanaethau gael eu hailgyflunio ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg drwy’r rhaglen @Gartref, bydd newidiadau i’r ffordd y mae staff o wahanol sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi eich gofal. Yn y dyfodol, ni waeth pa sefydliad y mae’r gweithiwr proffesiynol yn eich gofal yn gweithio iddo, bydd yn gweithio gyda chydweithwyr o wahanol dimau, proffesiynau a sefydliadau o bob rhan o’r bartneriaeth i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i chi a’ch gofal.   

Er y bydd llawer o’r newidiadau i greu gweithlu a rennir yn digwydd y tu ôl i’r llenni, un o’r newidiadau a fydd yn effeithio fwyaf uniongyrchol ar eich gofal yw creu cyfres o dimau amlddisgyblaethol, a fydd yn dod â gweithwyr proffesiynol a staff eraill ynghyd o bob rhan o’r GIG, cynghorau lleol a’r trydydd sector, fel y gallan nhw weithio’n fwy effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol.  

Bydd timau amlddisgyblaethol yn cefnogi eich mynediad at wasanaethau, trwy eich clwstwr gofal sylfaenol lleol, yn yr ysbyty, ac wrth gefnogi ailalluogi byrdymor ac yn eich helpu i ddychwelyd i’ch cartref neu’r gymuned ar ôl arhosiad yn yr ysbyty. Bydd timau amlddisgyblaethol yn cyfrannu at well cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol, gwell atgyfeiriadau rhwng gwasanaethau, a phroses ryddhau fwy effeithiol o’r ysbyty. Byddan nhw hefyd yn helpu i wella gwybodaeth gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael ledled y rhanbarth ac yn cefnogi gwella dealltwriaeth o anghenion y boblogaeth leol.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content