@Gartref: Beth yw ein dull?

Bydd y rhaglen yn…

  • Darparu model newydd o ofal a chymorth cydgysylltiedig ar draws y GIG, cynghorau, gwasanaethau’r trydydd sector a rhwydweithiau cymunedol lleol.
  • Darparu model cymorth sydd wedi’i gynllunio o’ch cwmpas chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cymorth.
  • Galluogi mwy o bobl i gadw eu hannibyniaeth drwy ofal a chymorth a ddarperir gartref neu’n nes at adref.
  • Mabwysiadu dull cynghrair lle mae staff iechyd, gofal a’r trydydd sector yn gweithredu, meddwl, ymddwyn a gwneud penderfyniadau yn un, gan weithio’n agosach gyda’i gilydd ac alinio’u cryfderau a’u hadnoddau â’r canlyniadau rydych yn ceisio’u cyflawni.

Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu model o ofal a chymorth sy’n galluogi pobl i… 

  • Aros yn annibynnol, yn ddiogel ac yn iach gartref mor hir â phosibl
  • Cael y cyfle i adfer a sicrhau’r annibyniaeth fwyaf iddyn nhw
  • Cadw mewn cysylltiad â’r pethau a’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw
  • Cael mynediad hawdd at wybodaeth, cyngor ac arweiniad er mwyn gallu cael rheolaeth
  • Gallu byw mor annibynnol â phosibl mor hir â phosibl
  • Cael mynediad at gymorth sydd, pan fo hynny’n bosibl, yn rhagweld ac yn osgoi argyfyngau
  • Helpu pobl i fynd adref o’r ysbyty cyn gynted â phosibl gyda’r cymorth iawn

Mewn ffordd sy’n ariannol gynaliadwy i’n holl bartneriaid.

Byddwn yn darparu’r rhaglen hon gyda’r egwyddorion canlynol…

  • Byddwn yn dechrau gydag anghenion y person, nid anghenion y sefydliad
  • Byddwn yn mabwysiadu dull cyson ar draws y rhanbarth sy’n adlewyrchu anghenion y boblogaeth leol
  • Ni fyddwn yn gwneud unrhyw niwed a byddwn bob amser yn ymdrechu i gydbwyso’r risgiau a’r buddion â’r hyn sy’n bwysig i bobl
  • Byddwn yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau
  • Rydym yn credu bod y rhan fwyaf o atebion yn gorwedd gyda’r person, ei gymuned a ble mae’n byw
  • Dim ond pan fydd angen y byddwn yn ymyrryd a bydd yn cael ei lywio gan yr hyn sy’n bwysig i’r person
  • Byddwn bob amser yn herio ein hunain ynghylch a ydym yn gwneud ein gorau dros y person
  • Byddwn yn uchelgeisiol wrth ddiddymu’r ffiniau sefydliadol y mae pobl yn eu hwynebu

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content