Cyfleusterau iechyd a gofal yng nghanol cymunedau in the heart of communities  

Drwy’r rhaglen @Gartref, rydym yn awyddus i wasanaethau iechyd a gofal gael eu darparu mor agos i’ch cartref â phosibl, gan eich helpu i arbed amser ac arian, a helpu i leihau ein hôl troed carbon ar y cyd. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r GIG wedi datblygu cynllun uchelgeisiol i adeiladu cyfleusterau gofal iechyd newydd mewn cymunedau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad agos â Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi nodau’r rhaglen ac a fydd yn bennaf gyfrifol am gymeradwyo’r cyllid ar gyfer y cyfleusterau newydd.   

Bwriad y cynllun yw datblygu cyfleusterau sy’n gallu darparu gwasanaethau iechyd a gofal, ond sydd hefyd yn darparu lle newydd, hyblyg i fudiadau trydydd sector a grwpiau cymunedol eu defnyddio i helpu i hyrwyddo lles a ffyrdd iachach o fyw.  

Bydd ysbytai yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o ddarparu gwasanaethau’r GIG yn y rhanbarth, gan gynnwys gwasanaethau brys, llawdriniaethau, arosiadau cleifion mewnol, a rhai apwyntiadau cleifion allanol, ond byddwn yn ceisio darparu cymaint o’ch gofal mor agos â phosibl i’ch cartref. 

Mae cynlluniau ar gyfer dau fath o gyfleuster newydd, Canolfannau Iechyd a Lles mwy a Hybiau Lles llai:  

Bydd Canolfannau Iechyd a Lles yn cynnwys dull clinigol o ofalu ac yn darparu: 

  • Cymorth os ydych chi’n sâl ond bod eich cyflwr yn sefydlog. 
  • Amrywiaeth o brofion diagnostig, fel pelydrau-x a sganiau. 
  • Gofal triniaeth ddydd ar gyfer cyflyrau penodol nad oes angen triniaeth frys arnyn nhw. 
  • Gwasanaethau cleifion allanol a chlinigau. 
  • Amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol sy’n cefnogi eich anghenion penodol, gan gynnwys ailalluogi, iechyd meddwl, a gwasanaethau plant. 
  • Gwasanaethau ychwanegol sydd wedi’u teilwra i anghenion yr ardal leol.  

Bydd Hybiau Lles yn gyfleusterau llai, mwy cymunedol sy’n dal i ddarparu ystod o wasanaethau iechyd a gofal a fydd yn cefnogi’r egwyddor o ddarparu gofal yn nes at adref.  

Byddan nhw’n darparu:

  • Gwasanaethau sy’n hyrwyddo atal ac iechyd da ac yn cefnogi lles corfforol, cymdeithasol a meddyliol. 
  • Gwasanaethau meddygon teulu, clinigau iechyd cymunedol, bydwreigiaeth gymunedol, rhai gwasanaethau iechyd meddwl, a gwasanaethau penodol i gleifion allanol sy’n diwallu anghenion y gymuned. 
  • Gwasanaethau a ddarperir mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’r trydydd sector. 
  • Amgylchedd croesawgar i bawb sy’n meithrin ysbryd cymunedol cryf.  
  • Gwasanaethau ychwanegol wedi’u teilwra i anghenion yr ardal leol. 

Bydd datblygu’r cyfleusterau newydd yn cymryd nifer o flynyddoedd ac, yn amodol ar gymeradwyaeth ariannol, yn digwydd dros y 10 mlynedd nesaf. Gallwch eisoes weld rhywfaint o’r cynnydd mewn cyfleusterau newydd yn y rhanbarth yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, sydd wedi ailddatblygu’r capel yn sylweddol i fod yn gaffi a man cymunedol, a datblygiad yr Hyb Lles yn y Maelfa. 

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content