@Gartref: Gweithio gyda’n gilydd i ddarparu gofal yn nes at y cartref

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol a chynrychiolwyr gofalwyr.

Y nod yw gwella iechyd a lles y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu.

Rydym am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod oedolion yn gallu byw’n dda ac yn cael eu cefnogi i heneiddio’n dda trwy sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel ar gael pan fydd eu hangen.

Mae’r BPRh wedi dod â nifer o brosiectau at ei gilydd sy’n gweithio gyda’i gilydd fel y gallwch gael mynediad at y cymorth sydd ei hangen arnoch, pryd a lle mae ei angen arnoch. Mae’r prosiectau hyn yn ffurfio’r rhaglen @Gartref.

Dros y pump i ddeng mlynedd nesaf, bydd y rhaglen yn darparu model newydd o ofal a chymorth cydgysylltiedig. Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich cefnogi i fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl, gan dderbyn gofal yn eich cartref a’ch cymuned neu mor agos atynt â phosibl.

Yn ogystal, bydd y Rhaglen @Gartref yn darparu gwelliannau pellach i brofiad pobl o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y rhain yn cynnwys:

Gyda’i gilydd, mae’r Rhaglen @Gartref yn cynrychioli cynnig newydd uchelgeisiol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Er y bydd yn cymryd amser i’r holl newidiadau hyn ddigwydd, rydym wedi ymrwymo i wella profiad pawb o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r wefan hon yn darparu rhagor o wybodaeth i drigolion Caerdydd a Bro Morgannwg a staff o bob rhan o’r Bartneriaeth Ranbarthol ar yr hyn y bydd y Rhaglen @Gartref yn ei olygu i chi. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen mwy am ein huchelgais a’r cynlluniau cyffrous sydd o’n blaenau.

Cath Doman

Cyfarwyddwr, Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content